Gwyl Gelfyddydau Betws-y-CoedGwyl Gelfyddydau Betws-y-Coed Eryri Gogledd Cymru

Gŵyl Gelfyddydau Betws-y-Coed - Eryri, Gogledd Cymru

Cynhaliwyd Ŵyl Gelfyddydau cyntaf Betws Y Coed rhwng y 16eg a’r 19eg o Ebrill 2009 ym mhentref Betws Y Coed yn Nyffryn Conwy yn Eryri, Gogledd Cymru. Mae trefniadau wedi cychwyn ar gyfer yr ŵyl nesaf a fydd yn cael ei chynnal o ddydd Gwener y 8fed o Hydref hyd at ddydd Sul y 10fed o Hydref 2010.

Mae Betws y Coed, y drefedigaeth artistiaid wreiddiol, a Dyffryn Conwy wedi cadw cysylltiad cryf gyda’r celfyddydau. Mae yna lawer o artistiaid a chrefftwyr yn byw ac yn gweithio yn yr ardal, ac mae’r ŵyl yma wedi ei threfnu i gyd fynd â’r flwyddyn ymwelodd David Cox â Betws-y-Coed am y tro cyntaf, 165 o flynyddoedd yn ôl, ac i ddathlu treftadaeth gelfyddydol yr ardal a’r artistiaid hynny sy’n gweithio yma ar hyn o bryd.

O noson agored brysur yng nghwmni Elfyn Llwyd AS i gyfres o arddangosfeydd, sgyrsiau, gweithdai, digwyddiadau cerddorol, a theithiau creded ac adrodd straeon i ddiwedd yr ŵyl ar noswaith heulog o wanwyn, mae trefnwyr Gŵyl Gelfyddydau cyntaf Betws Y Coed yn falch for y digwyddiad wedi cael cychwyn llwyddiannus.

Cyn y digwyddiad, manteisiodd ddisgyblion o Ysgol Dyffryn Conwy ac Ysgol Gynradd Betws Y Coed o gymryd rhan mewn prosiectau celf gyda Alison Bradley a Bernadette Rippon, a braf oedd gweld y gwaith a wnaethpwyd yn cael ei arddangos yn Oriel Alison Bradley ar benwythnos yr ŵyl.

Roedd uchafbwyntiau’r ŵyl yn cynnwys casgliad o luniau o’r Drefedigaeth Arlunwyr Betws Y Coed 1844 - 1914, sgwrs gan yr haneswyr celf Peter Lord ynghlyn a’r drefedigaeth, cyfres o weithdai celf, nifer o ddigwyddiadau cerddorol ac agoriad Plas Coed Y Celyn lle cafodd ymwelwyr y pleser o daith bersonol gan yr arlunydd Barbara Shorrocks-Carter.

Er gwaethaf presenoldeb amrywiol hyd y tri diwrnod, sydd i’w ddisgwyl yn y flwyddyn gyntaf o unrhyw ddigwyddiad fel hyn, roedd y trefnwyr wedi’u plesio bod yr ymateb gan ymwelwyr, artistiaid a phobl leol yn aruthrol o ffafriol.

Mae trefniadau wedi cychwyn yn barod ar gyfer gŵyl flwyddyn nesaf ac mae’r trefnwyr yn croesawu unrhyw fynegiant o ddiddordeb gan arlunwyr a fyddai’n hoffi cymryd rhan.

Uchafbwyntiau 2009

Dosbarth Meistr mewn Argraffu

Dydd Gwener 17 Ebrill
Dosbarth Meistr gyda Sue Corr.

:: mwy o fanylion

Trefedigaeth Artistiaid Betws-y-Coed 1844-1914

Dydd Sadwrn 18 Ebrill
Sgwrs gan Peter Lord.

:: mwy o fanylion

Gweithdy Celf i’r Teulu

Dydd Sadwrn 18 Ebrill
Gweithdy ar gyfer y teulu cyfan.

:: mwy o fanylion

Dosbarth Meistr Helfa Gelf mewn Cyfryngau Cymysg

Dydd Sadwrn 18 Ebrill
Dosbarth Meistr gyda Wendy Couling.

:: mwy o fanylion

Dosbarth Meistr mewn darlunio gyda Siarcol

Dydd Sul 19 Ebrill
Dosbarth Meistr gyda Alison Bradley.

:: mwy o fanylion

:: gweler pob digwyddiad

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â lleoliad y digwyddiad neu:

Drwy'r Post: Oriel Alison Bradley, Ffordd Caergybi, Betws-y-Coed, Gogledd Cymru. LL24 0AB
Ffôn: 01690 710080
E-bost:
cysylltwch â ni drwy e-bost